Gweld swydd wag -- RHEOLWR GYFARWYDDWR - CONSORTIWM CANOLBARTH Y DE GWASANAETH ADDYSG AR Y CYD

Rheoli
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Consortiwm Canolbarth y De y Gwasanaeth Addysg ar y Cyd
Cyfarwyddwr Cyfadran
£110,000
Amser Llawn Parhaol

CONSORTIWM CANOLBARTH Y DE GWASANAETH ADDYSG AR Y CYD

 

SWYDD RHEOLWR GYFARWYDDWR

 

Cyflog tua £110k a lwfans adleoli

 

Rydyn ni'n awyddus i benodi unigolyn uchel ei gymhelliant sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad i arwain a rheoli gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol sydd wedi'i sefydlu'n dda ar ran pum awdurdod lleol. Er bod hon yn rôl barhaol, bydden ni hefyd yn ystyried cynnig secondiad am hyd at ddwy flynedd. Nodwch y byddai unrhyw secondiad ar gyflog presennol yr ymgeisydd os yw'n uwch na'r cyflog wedi'i nodi uchod.

 

Rydyn ni'n chwilio am ymgeisydd rhagorol sy'n meddu ar yr awch a'r uchelgais i ddatblygu ymhellach y weledigaeth o system wedi'i harwain gan ysgolion; sy'n deall yr ymdrech i feithrin gallu'r system addysg mewn ysgolion i arwain yr ymdrech i wella ymhellach.

 

Rydyn ni am benodi arweinydd hyfedr a chymwys sy'n:

 

  • Cyfathrebu'n hyderus ar ran y rhanbarth gydag ysgolion, awdurdodau lleol, gwleidyddion cenedlaethol a lleol, rhanbarthau eraill ac amrywiaeth o bartneriaid eraill, ac sy'n gallu rheoli'r berthynas â Llywodraeth Cymru yn enwedig ar adegau o newidiadau cyfundrefnol pwysig pan mae galw cystadleuol mawr ar y sefydliad.

 

  • Creu ethos a diwylliant tîm o fewn y sefydliad sy'n hyrwyddo ac yn gweithredu gweledigaeth a chenhadaeth y rhanbarth i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd bywyd pob dysgwr yn y rhanbarth drwy ddarparu addysg o'r radd flaenaf.

 

  • Deall ac yn cefnogi eraill i gofleidio tirlun cyfnewidiol y system addysg yng Nghymru.

 

  • Cydnabod bod gwaith gwella ysgolion yn llawer ehangach na gweithgareddau'r sefydliad ac yn hwyluso ac yn annog cydweithio cadarn gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.

 

  • Gallu arwain a rheoli'r broses o ddatblygu strategaeth tymor byr a thymor hir y rhanbarth drwy waith cynllunio busnes cadarn, gwaith craffu ariannol cadarn a llinellau atebolrwydd clir.

 

 

Beth yw Consortiwm Canolbarth y De?

 

Mae’r consortiwm yn fodel cyflwyno partneriaeth ar y cyd, sy’n cael ei lywodraethu gan Gyd-bwyllgor o’r pum awdurdod Mae Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg wedi cyfuno adnoddau ar gyfer gwella ysgolion mewn un sefydliad.

 

Cynhaliwyd adolygiad annibynnol yn ddiweddar ac o ganlyniad iddo, mae pob ALl wedi ymrwymo i ailddatgan ei ymrwymiad hirdymor i weithio'n rhanbarthol ac mae pob un yn datblygu trefniadau llywodraethu newydd i gynnwys mwy o ymgysylltiad ag arweinwyr ysgolion ac i wneud y broses yn fwy effeithlon.

 

Cydnabuwyd yn yr adroddiad fod y consortiwm yn annog y defnydd o ddulliau a strategaethau cyffredin ar draws grŵp ehangach o ysgolion. Mae’r consortiwm yn cyflwyno her a chefnogaeth i bob ysgol, yn dyrannu grantiau’n deg ac yn arwain gydag arweinwyr ysgolion ar ddatblygiad strategaethau ysgol-i-ysgol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Ar yr un pryd, mae’r consortiwm yn gweithio gyda chonsortia eraill yng Nghymru, sefydliadau ymchwil a Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisi yn y rhanbarth.

 

Mae'n fodel arloesol, sy'n canolbwyntio ar wella, effeithlonrwydd a chyflawni ar bob lefel o'r system. Mae'r posibiliadau ar gyfer datblygu pellach yn enfawr ac yn gyffrous.

 

 

Pwy ydyn ni?


Mae Consortiwm Canolbarth y De (CCD) yn gweithio ar ran pum awdurdod lleol yn Ne Cymru gyda 387 o ysgolion i gyflwyno gwasanaethau gwella ysgol. Caiff y sefydliad ei ariannu drwy gyfuniad o gyfraniadau craidd awdurdodau lleol a grantiau Llywodraeth Cymru. Y rhanbarth hwn sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, gan gwmpasu’r brifddinas a phrif ganolfan economaidd Cymru. Mae ysgolion yn y rhanbarth yma yn gwasanaethu traen o blant oedran ysgol yng Nghymru, yn ogystal â’r cymunedau mwyaf amrywiol a difreintiedig yng Nghymru. Mae’r rhanbarth yn cynnwys llawer o ysgolion rhagorol, yn ogystal â niferoedd bychain sydd angen cefnogaeth ac ymyrraeth ddwys. Does dim byd pwysicach i bobl y rhanbarth hwn nag ansawdd yr addysg mae pobl ifanc yn ei dderbyn.

 

Mae’r rhanbarth hwn yn gwella. O’r cyflawniad isaf o’r blaen, Canol De Cymru yw’r ail ranbarth uchaf ei gyflawniad yng Nghymru, ac wedi gweld y gwelliant cyflymaf o ran canlyniadau, yn enwedig ar gyfer y rhai mwyaf bregus, ar draws Cymru yn y tair blynedd diwethaf.

 

Fodd bynnag, gallwn wella hyd yn oed yn fwy, ac rydyn ni am weithio gyda'r ysgolion sy'n cyflawni orau ledled Cymru a thu hwnt. Rydyn ni am fod yn rhanbarth sy'n adnabyddus am ansawdd dysgu proffesiynol ein hathrawon ac arweinwyr. Yn anad dim, rydyn ni am fod yn rhanbarth lle mae pob ysgol yn darparu addysgu a dysgu gwych ym mhob ystafell ddosbarth, yn enwedig i'r dysgwyr mwyaf agored i niwed.


 

Mae tystiolaeth o'r adolygiad diweddar yn dangos bod ysgolion yn gadarnhaol iawn ynglŷn â chyfleoedd i gydweithio ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Ein cenhadaeth yw galluogi ysgolion i arwain gwelliant, trwy ‘Her Canol De Cymru’. Mae ein dull yn seiliedig ar yr egwyddor bod arfer ragorol yn bodoli mewn ysgolion a’n gwaith ni yw dod o hyd i strwythurau a systemau effeithiol ar gyfer rhannu a thyfu arfer o fewn ac ar draws ysgolion. Mae'r model Her Canol De Cymru ar ei newydd wedd wedi'i lunio mewn partneriaeth â phenaethiaid a bydd yn adeiladu ar y model blaenorol ond bydd yn datblygu ymhellach fel bod modd i ysgolion yn y rhanbarth ymateb i heriau rhaglen ddiwygio fawr LlC gan gynnwys cwricwlwm newydd a threfniadau gwerthuso a gwella.

 

 

 

Beth ydyn ni ei eisiau?

 

Rydym yn awyddus i benodi Rheolwr Gyfarwyddwr creadigol ac ymrwymedig i arwain y cam nesaf o ran cyflwyniad ein gwasanaeth. Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd:

 

  • â phrofiad a hanes cryf o sicrhau effaith wrth arwain sefydliad gwella ysgolion neu grŵp o ysgolion er mwyn gwella deilliannau addysgol yn sylweddol;
  • yn arloesol am welliant strategol cynaliadwy ysgolion, ac wedi ymrwymo i fodel gwella a arweinir gan ysgolion;
  • yn gallu sicrhau safonau uchel, cydnabod pwysigrwydd atebolrwydd i ddemocratiaeth leol ac yn ddiamwys wrth atal hunanfoddhad;
  • deall bod ysgolion yn gwasanaethu cymunedau amrywiol a bod gweithio mewn partneriaeth â gwasananethau eraill yn hanfodol;
  • â'r sgiliau i reoli amrywiaeth o randdeiliaid sydd â barn wahanol ond sy'n sicrhau bod y Consortiwm yn canolbwyntio o hyd ar gyflawni'r blaenoriaethau wedi'u cytuno arnyn nhw er budd ysgolion a phob dysgwr yn y rhanbarth:
  • yn gallu dod â thîm effeithiol at ei gilydd er mwyn gweithio gydag awdurdodau lleol a gwleidyddion; a
  • wedi ymrwymo i arwain sefydliad i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid cenedlaethol a rhanbarthol i gefnogi ymdrechion ysgolion ac arweinwyr wrth wella dysgu yng Nghanol De Cymru.

 

 

Am sgwrs anffurfiol ffoniwch Paul Orders, Prif Weithredwr Arweiniol Consortiwm Canolbarth y De ar 02920 872401.

 

I wneud cais ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/swyddi.

 

Byddwn ni'n cau rhestr yr ymgeiswyr ganol dydd, ddydd Llun 28 Hydref 2019.

 

 

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

37
Valleys Innovation Centre
Navigation Park
Abercynon
CF45 4SN
18 Tachwedd 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.