Gweld swydd wag -- Uwch Ymarferydd - Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth/Hwb Diogelu Amlasiantaeth

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 12
£37,107
Amser Llawn Parhaol
Mae Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd Uwch Ymarferydd o fewn y Garfan Gwybodaeth, Cymorth ac Asesu a'r Hwb Diogelu Amlasiantaeth.

Mae'r Garfan Gwybodaeth, Cymorth ac Asesu wedi'i lleoli yng Ngorsaf Heddlu Pontypridd. Mae'r swydd wedi'i lleoli mewn swyddfa a bydd angen gweithio ar draws y ddwy garfan yn ôl anghenion darparu gwasanaeth. Mae angen canolbwyntio ar achosion trothwy i benderfynu'n gyflym os oes pryderon o safbwynt Amddiffyn Plant neu os oes angen Asesiad o'r Angen i sicrhau bod plant, pobl ifainc a theuluoedd yn cael eu hatgyfeirio i gael ymyrraeth briodol.

Bydd disgwyl i chi, a chithau'n Uwch Ymarferydd, reoli llwyth o achosion sydd wedi'i ddiffinio. Byddwch chi'n gweithio mewn amgylchedd carfan sy'n heriol ond sydd hefyd yn gefnogol lle byddwch chi'n cael boddhad. Bydd disgwyl i chi fentora eraill pan fo angen hynny ar ymarferwyr newydd gymhwyso ac ymrwymo i gyflawni datblygiad personol. Yn y rôl yma bydd disgwyl i chi ddirprwyo dros reolwr eich carfan yn achlysurol. Byddwch chi hefyd yn cael goruchwyliaeth anffurfiol a ffurfiol yn rheolaidd ac mae nifer o gyfleoedd hyfforddi priodol ar gael.

Hefyd, mae disgwyl i chi gael dealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol y Ddeddf Plant, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Byddwch chi'n ymroi i ymarfer sydd heb fod yn ormesol, a byddwch chi'n dod â sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn i'r swydd. Mae gan ein holl ymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwaith ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan Dîm Rheoli profiadol ar lefelau Strategol a Gweithredol.

Rydyn ni'n cydnabod bod Gwaith Cymdeithasol yn heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a bod y maes yn gofyn am lawer o sgiliau, ymroddiad a brwdfrydedd. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu bwrpasol arbennig sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr i gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. Byddwch chi angen o leiaf 3 mlynedd o brofiad ar ôl cymhwyso. Bydd disgwyl i chi fod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru cyn i chi ddechrau yn y swydd a chael hanes o waith cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd a chael tystiolaeth i ddangos hynny.

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol am y swyddi yma, ffoniwch Louise Howe, Rheolwr y Garfan ar (01443) 425006.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
37
Rhondda Principal Office
Berw Road
Tonypandy
CF40 2HH
4 Tachwedd 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.