Methu â golygu'r meysydd

Rydych chi wedi rhoi cynnig ar olygu meysydd sydd wedi'u llenwi, ond dydy'r newidiadau ddim yn cael eu harbed. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

Sut i olygu meysydd sydd wedi'u llenwi

Yn gyntaf, gwnewch gopi o'r wybodaeth sydd eisoes ar y dudalen dan sylw. Nesaf, bydd eisiau i chi glirio'r dudalen gyfan. Cewch chi wneud hyn drwy glicio ar y cyswllt ‘Cliciwch yma i glirio pob maes’– o dan ‘Arbed a pharhau’. Bydd hyn yn clirio'r holl ddata yn y meysydd ar y dudalen dan sylw. Ar ôl clirio'r meysydd, dylech chi fod yn gallu arbed unrhyw wybodaeth newydd.

Cewch chi glicio ar y botwm ‘Ailosod y dudalen’ er mwyn adfer unrhyw ddata rydych chi wedi'i ddileu ar y dudalen dan sylw cyn clicio ar ‘Arbed a pharhau’ er mwyn symud i'r dudalen nesaf. Er enghraifft, os byddwch chi'n dileu eich cyfeiriad ar ddamwain, cewch chi glicio ar y botwm ‘Ailosod y dudalen’ er mwyn adfer y wybodaeth – cyhyd â'ch bod chi heb symud i'r dudalen nesaf trwy glicio ar y botwm ‘Arbed a pharhau’.

Pynciau perthnasol