Gweld swydd wag -- Gyrrwr Nwyddau/Gosodwr
Y cwsmer yw canolbwynt holl waith busnes Vision Products. Rydyn ni'n darparu offer cymunedol newydd ac sydd wedi'i adnewyddu i'r gymuned.
Ar hyn o bryd rydyn ni'n chwilio am Yrrwr Nwyddau/Gosodwr rhan amser i ymuno â'n Gwasanaeth Offer Cymunedol sy'n darparu gwasanaeth Dosbarthu/Casglu proffesiynol ac effeithlon.
Bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn y DU a bydd y Cyngor yn darparu cerbyd i chi ymgymryd â'ch dyletswyddau.
Bydd dyletswyddau'n cynnwys:
- Sicrhau bod yr offer a'r wybodaeth gywir sy'n cael eu nodi ar y gwaith papur neu'r ddyfais law yn cael eu dosbarthu i'r cwsmer
- Llwytho offer a nwyddau i gerbydau ac oddi arnynt mewn modd cywir a diogel
- Gosod a chyfarwyddo'r offer yn ddiogel
- Gweithredu prosesau fel pennu codau bar yn gywir a chofnodi profion yn electronig gan ddefnyddio dyfais symudol neu ddyfais law
- Cwblhau taflenni cofnodi cerbydau a dogfennau cerbydau a theithiau eraill yn gywir yn ôl y gofyn
- Sicrhau darparu lefel arbennig o wasanaeth i gwsmeriaid
Cymryd rhan, lle bo angen ac ar sail rota, yn y ddarpariaeth o wasanaeth torri i lawr ac atgyweirio y tu allan i oriau arferol
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r rôl, e-bostiwch phillip.sims@rctcbc.gov.uk neu fay.richards@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 229988.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.