Gweld swydd wag -- Cydlynydd Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant (Prentisiaethau/Graddedigion)
Cydlynydd Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant (Prentisiaethau/Graddedigion)
Mae cyfle cyffrous wedi codi mewn carfan ddeinamig a blaengar sy'n darparu nifer o gynlluniau cyflogaeth ledled RhCT.
Bydd y Cydlynydd Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant yn helpu Rheolwr y Garfan Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant i reoli, cydlynu a datblygu Cynllun Prentisiaethau a Graddedigion y Cyngor. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol a dealltwriaeth drylwyr o fframweithiau cymwysterau a chwricwlwm sydd ar gael drwy gyllid Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Sian Woolson ar (01443) 570036.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.