Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth – Brysbennu - Swydd wedi'i hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
Cyfnod Penodol tan 30 Mehefin 2020
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi Gweithiwr Cymorth – Brysbennu ymrwymedig er mwyn sicrhau bod Cymunedau am Waith yn darparu cymorth i'r Uwch Garfan Cyflawni sy'n darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth i bobl ifainc ac oedolion yn ein cymuned.
Mae'r prosiect yn cynorthwyo pobl ifainc ac oedolion sy'n ddiwaith ac sy'n economaidd anweithgar, i'w helpu i oresgyn rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sy'n gallu dangos dealltwriaeth o'r problemau sy'n rhwystro pobl ifainc ac oedolion rhag cael swydd barhaol. Byddwch chi'n meddu ar sgiliau gweinyddol da, a gwybodaeth dda o wasanaethau lleol a sefydliadau sy'n gweithio gyda'r grŵp o gleientiaid.
Pe hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Zoe Livermore ar (01443) 425314 neu 07471 132019.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.