Gweld swydd wag -- Gweithredwr y Llinell Fywyd ac Ôl-oriau'r Swyddfa
Mae’r Cyngor yn ymroi i wella darpariaeth gwasanaeth rheng flaen drwy’r amser. Mae hyn yn adlewyrchu ein hawch am gynnal gwasanaeth mwy integredig, gofynion cynyddol o du’r cyhoedd, a’n hymroddiad i greu sefydliad mwy hygyrch gyda pherthynas fwyfwy positif â’r bobl leol.
Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Gwasanaeth Gofal i Gwsmeriaid er mwyn blaenoriaethu, derbyn ac ymateb i alwadau sy'n cyrraedd y Gwasanaeth Llinell Fywyd ac Ôl-oriau'r Swyddfa sy'n cael ei gynnal 24 awr y dydd.
Byddwch chi'n derbyn galwadau argyfwng gan bobl hŷn a chleientiaid sy'n agored i niwed yn unol â gweithdrefnau a phrotocolau'r Cyngor. Byddwch chi'n rhoi gwybod i'r bobl berthnasol pan fo angen. Bydd gofyn i chi hefyd gysylltu â defnyddwyr gwasanaeth yn rhagweithiol, yn unol ag agwedd ataliol tuag at eu hiechyd a'u lles nhw.
Byddwch chi hefyd yn derbyn galwadau argyfwng sy'n ymwneud â'r Cyngor tu allan i oriau swyddfa. Os oes angen datrys yr alwad yma ar frys, byddwch chi'n ei throsglwyddo i'r contractwr sydd ar alwad.
Oherwydd bod y Gwasanaeth yma ar gael 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn, byddwch chi'n gweithio sifftiau sy'n rhan o rota. Bydd eich sifftiau'n cael eu rhoi i chi bob dydd Gwener, ar gyfer yr wythnos ganlynol.
Rhaid bod gyda chi sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn enwedig technegau ffôn. Rhaid eich bod chi'n gallu defnyddio systemau TG yn effeithiol. Mae profiad o weithio'n rhan o garfan ac mewn amgylchedd Canolfan Alwadau hefyd yn ofynnol.
Byddwch chi'n unigolyn cadarnhaol, gydag agwedd 'gallu gwneud' a'r awydd i ddarparu gwasanaeth arbennig i gwsmeriaid.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Natalie Jones, (Dirprwy Reolwr y Ganolfan Alwadau) ar (01443) 425051.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.