Gweld swydd wag -- Cynllunydd (Lefel 1)

Rheoli Datblygu
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Gradd 8
£24,893 ar gyfer 35 awr
Amser Llawn Parhaol

Mae swydd wag ar gael yn yr Adran Adfywio, Cynllunio a Thai am Gynllunydd (Lefel 1). Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig i ddod yn rhan allweddol o'r garfan Ceisiadau Cynllunio, yn rhan o'r Adran Gynllunio strategol ehangach.

Byddwch chi'n bennaf gyfrifol am brosesu ceisiadau cynllunio a cheisiadau eraill yn unol â deddfwriaeth berthnasol, gan ganolbwyntio ar geisiadau cynllunio gan breswylwyr, er mae'n bosibl bydd y gwaith hefyd yn cynnwys ceisiadau llai pwysig a llai cymhleth. Bydd deiliad y swydd hefyd yn helpu i baratoi datganiadau a thystiolaeth ar gyfer apeliadau cynllunio a mynychu gwrandawiadau / ymholiadau yn ôl yr angen.

Mae'r cyfrifoldebau pellach yn cynnwys, ymhlith eraill:

  • Ymdrin ag ymholiadau cyffredinol a darparu cyngor amserol a chywir i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth;
  • Cyfrannu at waith gorfodi effeithiol yn rhan o reoli cynllunio.
  • Cyfrannu at effeithiolrwydd y garfan.

Dylai pob ymgeisydd fod â dealltwriaeth o waith Cynllunio, Rheoli Datblygu, Rheoli Adeiladu a Chadwraeth a bod â phrofiad o weithio ym maes cynllunio. 

Am sgwrs anffurfiol a rhagor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Gareth Davies ar (01443) 281128, neu Matthew Farley ar (01443) 281130.


Oherwydd y nifer sylweddol o ffurflenni cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol.  Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

35
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
6 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.