Gweld swydd wag -- Rheolwr y Garfan

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 13
£40,760
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni'n gobeithio recriwtio unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig i reoli carfan Gofal a Chymorth (Gorllewin 3) sydd â'i chanolfan yn Nhŷ Elái, Trewiliam. 

Mae'r garfan yn gweithio gydag oedolion dros 18 oed, a allai fod yn dioddef o anabledd corfforol, salwch parhaol, anabledd dysgu neu gyflwr iechyd meddwl. Mae dealltwriaeth o Ddeddf Galluedd Meddwl 2005 a materion Gofal Iechyd Parhaus a Chynllunio Gofal a Thriniaeth o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn hanfodol. Rydyn ni'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

Bydd disgwyl i Reolwr y Garfan ddangos y sgiliau arwain a threfnu sydd eu hangen i gynnal gwasanaeth effeithiol ac effeithlon, lle mae'n bosib i'r ymarfer gofal cymdeithasol wella a datblygu. Bydd angen i chi ddadansoddi cyflawniad y garfan a byddwch chi'n gyfrifol am sicrhau bod gwaith o ansawdd uchel yn cael ei wneud gan y garfan a rhaid i chi gymryd rhan weithredol mewn afarniadau gan nodi a chyfrannu at eich datblygiad unigol chi a'ch carfan chi.

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â grŵp sefydledig cefnogol o reolwyr carfan. Caiff goruchwyliaeth a chymorth proffesiynol eu rhoi'n rheolaidd.  Bydd sawl cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnig cyfle i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith drwy ei gynllun buddion staff.

O'ch penodi, bydd gyda chi sgiliau llafar ac ysgrifenedig da, a gwybodaeth sylfaenol am gyfrifiaduron. Bydd angen i chi fod yn drefnus, a bydd angen ichi allu'ch cymell eich hun a blaenoriaethu llwyth gwaith. Yn ogystal â hynny, bydd angen i chi fod yn greadigol a chael cred gadarn mewn rhoi annibyniaeth i oedolion.

Bydd gyda chi gymhwyster cydnabyddedigmewn gwaith cymdeithasol ac wedi cofrestru fel 'Gweithiwr Cymdeithasol' gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn dilyn cael eich penodi.

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Tracey Cooper, Rheolwr y Gwasanaeth (Gorllewin), ar (01443) 425417.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

 


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
29 Tachwedd 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.