Gweld swydd wag -- Swyddog Comisiynu Rhanbarthol ar y Cyd – Swydd Dros Dro

Rheoli
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Cyfarwyddwr Cyfadran
Gradd 14
£43,662
Amser llawn dros dro

UNED COMISIYNU RHANBARTHOL

CYNGOR RHONDDA CYNON TAF, CYNGOR MERTHYR TUDFUL, CYNGOR PEN-Y-BONT AR OGWR A BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CHWM TAF MORGANNWG

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf am gryfhau ei adnodd Comisiynu ar y Cyd. Rydyn ni'n falch o gael arwain y broses o roi'r agenda integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd ar waith, ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cyngor Merthyr Tudful, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ac yntau wedi'i seilio ar waith partner cadarn ar draws y rhanbarth, mae'r bartneriaeth yn awyddus i gyflymu integreiddio ein gwasanaethau ymhellach, fel bydd modd i'r bobl sy'n derbyn y gofal a'r cymorth fanteisio ar ofal di-dor sydd wedi'i deilwra i'w hanghenion.

I gefnogi rhaglen waith y Cynllun Ardal Rhanbarthol, bydd yr Uned Comisiynu Rhanbarthol ar y Cyd (lle bo comisiynu integredig yn fuddiol) yn mapio'r galw, datblygu manylebau gwasanaeth gyda staff rheng flaen a defnyddwyr gwasanaeth a monitro deilliannau, gan sicrhau gwerth am arian a bod y gwasanaethau er budd gorau cleientiaid/cleifion a chynhalwyr. Bydd yr Uned yn cael ei chefnogi gan ddisgyblaethau arbenigol o sefydliadau partner eraill fel y bo'n briodol, gan gynnwys cyllid, caffael, Adnoddau Dynol, cyflawniad a gwybodaeth.

Rydyn ni'n awyddus i benodi unigolyn o blith ein sefydliadau partner sy'n fedrus iawn ac sydd â'r cymwysterau a'r profiad priodol. Bydd cymhelliant, brwdfrydedd ac arbenigedd yr unigolyn yn ffurfio carfan effeithiol i gyflawni'r agenda bwysig yma.

Bydd y swydd ganlynol sydd ar agor i bartneriaid, yn cael ei chynnal gan Gyngor RhCT, ond byddwch chi’n gweithio'n agos gyda'r holl bartneriaid, drwy Grŵp Arweiniol Trawsffurfiol Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf.

Mae modd cynnig pob swydd fel cyfle secondiad gyda chaniatâd rheolwr llinell yr ymgeisydd. Bydd hawl gan yr ymgeiswyr llwyddiannus barhau â'u Telerau ac Amodau, naill ai gyda’u cyflogwr ym maes Iechyd neu Lywodraeth Leol.

A chithau'n gweithio'n agos gyda Phennaeth yr Uned, byddwch chi'n arwain ar rannau allweddol y rhaglen waith er mwyn cefnogi'r Cynllun Ardal Rhanbarthol sy'n cael ei weithredu ar y cyd. Byddwch chi'n gyfrifol am y canlynol:

 

  • Sefydlu a chynnal      trefniadau rheoli rhaglenni er mwyn cyflwyno’r rhaglen waith comisiynu ar      draws y rhanbarth ar gyfer gwasanaethau/cleientiaid penodol. Mae hyn yn      cynnwys gweithio ochr yn ochr â swyddogion comisiynu mewn sefydliadau      partner i ddarparu gwasanaeth o safon uchel, sy’n hyblyg ac ymatebol, ar      gyfer cwsmeriaid mewnol ac allanol.
  • Datblygu a chefnogi      sefydliadau partner i ddatblygu a rheoli cynigion a phrosiectau'r Gronfa      Gofal Integredig.

 

  • Hwyluso datblygiad      marchnadoedd fel Cartrefi Gofal, Llety â Chymorth ac Ymyrraeth Gynnar /      Comisiynu Ataliol er mwyn sicrhau bod gan ranbarth Cwm Taf amrywiaeth eang      o wasanaethau o safon uchel i'r rheiny sydd eu hangen.

 

  • Bod yn rhan o arwain ar      ddatblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau comisiynu tymor hir;      gan edrych yn benodol ar unrhyw fylchau yn y farchnad a sicrhau bod      cyfrifoldebau deddfwriaethol a lleol yn cael eu bodloni.

 

I gael rhagor o fanylion am y swydd, yn enwedig am gymwysterau a phrofiad, edrychwch ar y disgrifiad swydd a'r fanyleb person sydd ar gael.

Cysylltwch â Sarah Mills, Pennaeth yr Uned Comisiynu Rhanbarthol (01443) 570046 i gael trafodaeth anffurfiol am y cyfleoedd hyn.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n drylwyr i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda rhanbarth Cwm Taf.

37
Cwm Taf University Health Board
Headquarters
Ynysmeurig House
CF45 4SN
12 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.