Gweld swydd wag -- Cynorthwyydd Trafnidiaeth

Gweinyddol a chlerigol
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 6
£21,166
Amser Llawn Parhaol

Dyma gyfle i Swyddog Materion Trafnidiaeth gryf ei gymhelliant ymuno â Gwasanaeth Trafnidiaeth y Gyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen er mwyn darparu cymorth gweinyddol a thechnegol i'r Uned Trafnidiaeth Integredig, sydd wedi'i lleoli yn Nhŷ Sardis.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth technegol mewn perthynas â threfniadau gweinyddu'r Uned Trafnidiaeth Integredig o ran Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Chludiant Gofal yn y Gymuned. Bydd yn cynnwys cyfrifoldebau tendro a rheoli cytundebau, cyfathrebu rheng flaen gyda'r cyhoedd, darparwyr trafnidiaeth, ysgolion, sefydliadau ac adranau eraill y Cyngor.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog, yn gallu canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaethau a rheoli ei lwyth gwaith yn llwyddiannus mewn modd amserol ac effeithlon, gan ddarparu cefnogaeth ardderchog i'r gwasanaeth.

Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn drylwyr iawn, yn gallu defnyddio pecynnau TG, gyda sgiliau cyfathrebu, ysgrifennu a llafar da, bod yn drefnydd da gyda dull hyblyg o weithio ac yn canolbwyntio ar gwsmeriaid.

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ffoniwch Matthew Edmunds, Blaen Swyddog Uwch Materion Trafnidiaeth, Uned Trafnidiaeth Integredig ar (01443) 494832.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
5 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.