Gweld swydd wag -- Ymarferwyr Gofal Plant Preswyl Rhan Amser – Cartref Cymuned y Beddau
Rydyn ni am benodi Ymarferwyr Gofal Plant Preswyl i weithio 18.5 a 28.5 awr yr wythnos yng Nghartref Cymuned y Beddau. Mae'r cartref yn cynnig llety i 5 o blant a phobl ifainc sy'n agored i niwed. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi gofal a chymorth o ddydd i ddydd i'r plant a phobl ifainc sy'n byw yn y cartref.
Mae cyfrifoldebau penodol y swydd yn cynnwys:
- Hyrwyddo lles y plant a phobl ifainc drwy annog ffordd iach o fyw, cyraeddiadau addysgol a gweithgareddau hamdden ysgogol.
- Paratoi ar gyfer cyfarfodydd cynllunio ac adolygu a chyfrannu atyn nhw.
- Rhannu yn y gweithgareddau ymarferol sy'n hanfodol i gynnal y cartref.
Bydd gofyn ichi fod yn barod i fod yn hyblyg gan y bydd rhaid gweithio rhywfaint o waith sifft, gan gynnwys penwythnosau, Gwyliau Banc a dyletswyddau dros nos.
Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ac ymgymryd â Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) cyn pen 2 flynedd ar ôl cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Rheolwr Cofrestredig, Nicola Howard, ar (01443) 202600.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o ffurflenni cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.