Gweld swydd wag -- Gweithiwr Preswyl Achlysurol Cymorth i Blant Preswyl - Nantgwyn
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n awyddus i gyflogi Gweithiwr Preswyl Achlysurol Cymorth i Blant i weithio’r nos yng Nghartref Seibiannau Byrion Nant-gwyn yn Aberdâr pan fo angen.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda phlant bregus ag anghenion ychwanegol trwy ddarparu cefnogaeth i gynnal trefn arferol mewn amgylchedd meithringar, a chynorthwyo pobl ifainc i ddatblygu sgiliau cymdeithasol yn y gymuned leol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i'r Rheolwr Cofrestredig am drefniadau cynllun gofal y person ifanc o ddydd i ddydd.
Byddwch chi'n:
- Cyfrannu mewn modd cadarnhaol i ansawdd y gwasanaeth
- Gweithio yn rhan o garfan
- Ymgymryd â gofal personol
- Bod yn frwdfrydig, gofalgar, cyfeillgar a dymunol a chanolbwyntio ar y plentyn
- Bod yn gyfrifol am eich datblygiad proffesiynol eich hunan
Mae cyfrifoldebau penodol y swydd yn cynnwys;
- Paratoi ar gyfer cyfarfodydd cynllunio ac adolygu a chyfrannu atyn nhw.
- Cyfrannu at y gweithgareddau ymarferol sy'n hanfodol i gynnal y cartref.
- Hyrwyddo lles preswylwyr trwy annog ffordd iach o fyw, cyraeddiadau addysgol ac ysgogi gweithgareddau hamdden.
- Bydd gofyn ichi fod yn barod i fod yn hyblyg gan y bydd rhaid gweithio rhywfaint o waith sifft, gan gynnwys penwythnosau a dyletswyddau dros nos.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar (neu fod yn barod i ddilyn cwrs) cymhwyster Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan a FfCCh Lefel 3, Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) a chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol.
Hoffech chi ragor o wybodaeth? Ffoniwch Charlotte Ajax-Treherne, Rheolwr Cofrestredig, ar (01685) 871687.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.