Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Gweinyddol a chlerigol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 6
£20,021 am 35 awr
Rhan-amser dros dro

Mae swydd ar gael yn y Garfan Adolygu sydd wedi'i leoli yn Nhŷ Catrin, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i'r Uwch Swyddog Gweinyddu ac yn gweithio gydag aelodau eraill o'r garfan Cymorth i Fusnesau. Byddwch chi'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth 'cymryd cofnodion' mewn Cynadleddau Diogelu Plant mewn perthynas â phlant ar y Gofrestr Diogelu Plant a gwasanaeth 'cymryd nodiadau' ar gyfer Adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod - bydd hyn o fewn yr awdurdod ac mewn lleoliadau y tu allan i'r awdurdod.

Bydd gofyn i chi ddarparu cefnogaeth weinyddol mewn perthynas â phob agwedd ar y broses Diogelu Plant a Phlant sy'n Derbyn Gofal.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfarwydd ag ystod o dechnoleg gwybodaeth gan gynnwys Microsoft Office a bydd ffocws penodol ar ddefnyddio cronfeydd data (cewch hyfforddiant ynglŷn â hyn). Yn yr un modd, bydd angen i chi gasglu gwybodaeth strategol.

Byddwch chi'n gallu rheoli'ch amser yn effeithiol ac ymrwymo i weithio i derfynau amser. Bydd gyda chi sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig er mwyn cyflawni'ch dyletswyddau'n effeithiol.

Am sgwrs anffurfiol ffoniwch Claire Owen neu Helen Jones ar (01443) 490120.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

35
Ty Catrin
Unit 1 - Maritime Industrial Estate
Pontypridd
CF37 1NY
13 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.