Gweld swydd wag -- Gweithiwr y Fynwent

Parciau a Gerddi
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 4
£18,426
Amser Llawn Parhaol

Dyma gyfle i Weithiwr y Fynwent weithio gyda'r Gwasanaethau Profedigaeth ym Mynwent Aberdâr.  Bydd y rôl yma'n cynnwys gweithio yn yr amlosgfa ac ar dir y fynwent yn unol â chyfarwyddiadau. Bydd y gwaith yn cynnwys torri beddau a chynnal a chadw'r tir.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo holl ddefnyddiwr y cyfleuster ym mhob ffordd.  Bydd y rhain yn cynnwys y cyhoedd, trefnyddion angladdau, gweinidogion a seiri cerrig beddau.

Bydd gyda chi ymrwymiad cryf at ofal i gwsmeriaid, sgiliau trefnu arbennig a bydd raid ichi ddilyn Cod Arferion Gweithio Diogel ar bob adeg.  Prif ddiben y swydd ydy gofalu am y sawl sy'n galaru mewn ffordd broffesiynol, urddasol.

Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd, ffoniwch Ceri Pritchard ar 01685 874115 neu Jayne Beer ar 01443 402810.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Aberdare Cemetery
Cemetery Road
Trecynon
CF44 9AB
7 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.