Gweld swydd wag -- Glanhawr â Rheolaeth - Canolfan Oriau Dydd Glan yr Afon
Mae angen glanhawr â chyfrifoldeb i weithio ar sail hyblyg o Ganolfan Ofal Oriau Dydd Glan yr Afon. Mae'r swydd yn un dros dro ar hyn o bryd. Mae'r Ganolfan Ofal Oriau Dydd yn darparu gwasanaeth oriau dydd ar gyfer pobl hŷn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i Reolwr y Gwasanaethau Oriau Dydd. Byddwch chi'n ddeiliad cofrestredig allweddi'r adeilad, a bydd eich dyletswyddau yn cynnwys agor a chau'r ganolfan bob dydd, gwaith glanhau cyffredinol ac achlysurol a rhoi gwybod am unrhyw waith cynnal a chadw.
Gan y byddwch chi'n cael cyswllt dyddiol â phobl hŷn/bregus ac anabl, mae'n hanfodol bod gyda chi ddiddordeb ynddyn nhw a'ch bod chi'n eu deall.
Byddwch chi'n derbyn cefnogaeth i gyflawni'r Fframwaith Sefydlu. Rhaglen yw hon sy'n eich paratoi ar gyfer eich swydd newydd.
Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Stephen Gray ar (01443) 486858 neu anfonwch e-bost: Stephen.T.Gray@rctcbc.gov.uk
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.