Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Cefnogi Gwirfoddolwyr

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 7
£23,836 pro rata
Rhan-amser dros dro

Ydych chi o'r farn bod gyda chi rywbeth i'w gynnig i bobl ifainc i wneud eu bywydau a'u cymunedau yn fwy diogel?

Gwasanaeth amlasiantaeth yw Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf, a'i brif nodau yw atal troseddu ac aildroseddu gan bobl ifainc, rhoi llais i'r dioddefwr a rhoi sicrwydd i'r gymuned.

Byddwch chi'n ymuno â charfan brofiadol (dwy swyddfa ym Merthyr Tudful a Phontypridd) sy'n cynnig cefnogaeth, goruchwyliaeth a chyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol.

A ninnau'n wasanaeth amlasiantaeth, rydyn ni wedi'n hintegreiddio'n rhan o drefn Strategaeth Cymunedau Diogel a Strategaeth Gwasanaethau i Blant. O ganlyniad i hynny, mae nifer o gynlluniau blaengar ar waith i’n cynorthwyo ni i gyrraedd ein nod. 

Cynorthwy-ydd Cefnogi Gwirfoddolwyr

A chithau'n Gynorthwy-ydd Cefnogi Gwirfoddolwyr, bydd disgwyl i chi recriwtio a chadw aelodau'r cyhoedd o gefndiroedd a chymunedau amrywiol i wirfoddoli mewn nifer o rolau penodol a chyffredinol yng Ngwasanaeth Troseddau Ieuenctid Cwm Taf.  Gan ddefnyddio'r llwybrau hyfforddi ac ymsefydlu sy'n bodoli eisoes, byddwch chi'n datblygu ac yn atgyfnerthu prosesau presennol i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu mentora, eu goruchwylio'n rheolaidd, a'u bod yn datblygu portffolio sy'n dangos eu hyfforddiant a'u profiad gwaith yn y Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc.

Chi fydd y pwynt cyswllt unigol ar gyfer yr holl waith gwirfoddol y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.  Byddwch chi'n cael eich cefnogi gan Reolwr Gweithredol a byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr â rheolwyr ac aelodau'r garfan er mwyn sicrhau bod pobl ifainc yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl.

Am drafodaeth anffurfiol am y swyddi uchod, ffoniwch Christa Bonham-Griffiths ar (01685) 724960.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

18.5 awr yr wythnos
Law Courts
Glebeland Place
Merthyr Tydfil
CF47 8BU
18 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.