Gweld swydd wag -- Ymgynghorydd Ymateb ar Unwaith

Gofal i Gwsmeriaid
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Gradd 6
£10.97 yr awr
Rhan-amser Parhaol

Mae’r Cyngor yn ymroi i wella darpariaeth gwasanaeth rheng flaen drwy’r amser. Mae hyn yn adlewyrchu ein dyhead i gynnal gwasanaeth mwy integredig, gofynion cynyddol o du’r cyhoedd, a’n hymroddiad i greu sefydliad mwy hygyrch gyda pherthynas fwyfwy positif â’r bobl leol.

Mae swyddi ar gael yn rhan o'r Uwchadran Gofal i Gwsmeriaid yn blaenoriaethu, trin a gweithredu galwadau o fewn ein Gwasanaeth Ymateb ar Unwaith ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

Byddwch chi'n derbyn galwadau gan oedolion sy'n dymuno defnyddio gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar draws Rhondda Cynon Taf a thynnu sylw atyn nhw yn unol â'r prosesau a'r protocolau yn ôl yr angen. Byddwch chi hefyd yn cysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth, yn unol ag agwedd ataliol tuag at eu hiechyd a'u lles.

Byddwch chi'n gweithio oriau sy'n rhan o amserlen gylchol sy'n sicrhau bod y gwasanaeth ar gael rhwng 8.30am a 6.30pm, Llun - Gwener.

Rhaid bod gyda chi sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn enwedig technegau ffôn.  Rhaid eich bod chi'n gallu defnyddio systemau TG yn effeithiol. Mae profiad o weithio'n rhan o garfan ac mewn amgylchedd Canolfan Alwadau hefyd yn ofynnol.

Byddwch chi'n unigolyn cadarnhaol, gydag agwedd benderfynol ac awydd i ddarparu gwasanaeth arbennig ar gyfer cwsmeriaid.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Chris Phillips, Rheolwr y Ganolfan Alwadau ar (01443) 425034.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

22
Contact Centre
Ty Elai
Dinas Isaf East
CF40 1NY
6 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.