Gweld swydd wag -- Swyddog Cyflogaeth (Ysbrydoli i Weithio)

Adfywio a Datblygu Cymunedau
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 8
£27,041
Cyfnod Penodol

Cyfnod penodol yn y lle cyntaf hyd at 31 Gorffennaf 2022

Mae carfan Ysbrydoli i Weithio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am benodi Swyddog Cyflogaeth ymroddedig. Bydd yn gweithio gyda'r garfan i gynorthwyo pobl ifainc (16-24 oed) i ddod o hyd i swydd/ennill cymwysterau.

Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol sy'n deall y problemau a'r rhwystrau y mae pobl ifainc yn eu hwynebu o ran ymgysylltu â chyfleoedd cyflogaeth ac o ran parhau i ymgysylltu â nhw.

Croesawn geisiadau/ddiddordeb gan bobl sydd â phrofiad o roi cymorth cyflogaeth i bobl ifainc yn y gorffennol, ac o drafod a monitro lleoliadau gwaith a chyfleoedd cyflogaeth lle y bo modd.

Os ydych chi eisiau gwybodaeth ychwanegol am y swydd, ffoniwch Damien Owen ar 07766578106 neu e-bostiwch damien.owen@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

37
Ty Elai
Williamstown
RCT
CF40 1NY
26 Chwefror 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.