Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Cyffredinol (Safonau Masnach)

Safonau Masnach
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 5
£18,633 ar gyfer 35 awr
Rhan-amser Parhaol

Dyma gyfle i ymuno â'r is-adran Safonau Masnach fel Cynorthwy-ydd Cyffredinol (Safonau Masnach) yn rhan o'r Garfan Safonau Bwyd ac Arolygiadau.

Mae Safonau Masnach yn gyfrifol am arolygu amrywiaeth eang o eiddo manwerthu ac eiddo sy ddim yn manwerthu o fewn y Fwrdeistref Sirol, ac arolygu cwynion troseddol mewn perthynas â deddfwriaeth Safonau Masnach.

O'ch penodi, byddwch chi'n cynorthwyo swyddogion awdurdodedig o fewn y Garfan Safonau Masnach. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo swyddogion yn ystod gwaith arolygu ac ymchwilio a all arwain at roi tystiolaeth yn y llys. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gwneud pryniannau prawf; dosbarthu samplau i dai prawf a dyletswyddau gweinyddol cyffredinol, gan gynnwys mewnbynnu gan ddefnyddio Word, Excel a'r gronfa ddata Flare/APP leol. Efallai bydd y swydd hefyd yn cynnwys: rhoi cymorth wrth ofalu, profi ac addasu offer Pwysau a Mesurau arbenigol a gweithredu gwarantau a goruchwylio cudd.

Mae angen trwydded yrru lawn. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus yrru cerbydau Safonau Masnach, gan gynnwys fan 3.5 tunnell, yn aml am bellter hir. Nid yw'r swydd hon yn cynnwys codi pwysau trwm, a bydd hyfforddiant codi a chario a Chyfarpar Diogelu Personol yn cael eu cynnig.

Mae'r awdurdod yn cynnig patrwm gweithio'n hyblyg i fodloni gofynion y Gwasanaeth, a rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol.

Mae gwaith Safonau Masnach yn aml yn sensitif, felly bydd angen i chi fod yn broffesiynol, yn ddibynadwy a chynnal hyder.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Gary Lewis, Uwch Swyddog Safonau Bwyd ac Arolygiadau, ar (01443) 425001 / Gary.Lewis@rctcbc.gov.uk neu Judith Parry, Rheolwr Safonau Masnach, ar (01443) 425001 / Judith.Parry@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned. 

35
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
12 Chwefror 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.