Gweld swydd wag -- Swyddog Masnachu Teg

Safonau Masnach
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 7
£23,167 am 35 awr
Rhan-amser Parhaol

Mae cyfle ar gael i ymuno â Charfan Safonau Bwyd ac Arolygiadau yn rhan o is-adran Safonau Masnach.

Rydyn ni'n chwilio am swyddog brwdfrydig sydd wedi profi ei fod yn gallu gweithio'n rhan o garfan ac ar ei liwt ei hun, ac sy'n rheoli ac yn blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â charfan flaengar i orfodi a chynghori ar yr ystod o ddeddfwriaeth Safonau Masnach.

Byddwch yn delio ag arolygiadau, cwynion, cyngor busnes ac ymchwiliadau mewn perthynas â gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr a manwerthwyr, yn ogystal â chymryd rhan mewn gwaith arolygu a chysylltu ag asiantaethau eraill.

Mae'r swydd yn gofyn am brofiad o weithio mewn maes gorfodi Safonau Masnach, yn ogystal â gwybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth Safonau Masnach, gan gynnwys safonau bwyd. Mae meddu ar Ddiploma mewn Materion Defnyddwyr a Safonau Masnach neu gyfwerth yn ddymunol. Os nad ydych yn meddu ar y cymhwyster yma, rhaid i chi fod yn barod i astudio i'w gyflawni.

Mae'r awdurdod yn cynnig patrwm gweithio'n hyblyg i fodloni gofynion y Gwasanaeth, a rhaid i chi fod yn barod i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, e-bostiwch Gary Lewis gary.lewis@rctcbc.gov.uk neu Judith Parry judith.parry@rctcbc.gov.uk, neu ffoniwch (01443) 425001.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

35
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
4 Chwefror 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.