Gweld swydd wag -- Swyddi Cyfrifiad Dros Dro
Swyddi Cyfrifiad Dros Dro
Lleoliad: Lleoliadau ac oriau amrywiol ar gael
Cyflog: Cyflogau amrywiol ar gael yn dibynnu ar y swydd
Mae'r cyfrifiad yn arolwg sy'n digwydd bob 10 mlynedd ac sy'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl ac aelwydydd yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal chi. Trwy gymryd rhan yn y cyfrifiad, byddwch chi'n helpu i sicrhau bod eich cymuned yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arni.
Mae cyfrif pawb yng Nghymru a Lloegr yn bwysig, felly mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyflogi pobl o bob cefndir i gynnal y gwaith. Bydd y data rydych chi'n ein helpu ni i'w gasglu yn cael effaith gadarnhaol ar y gymdeithas a bydd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi'r sgiliau a'r cymorth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn hyderus, yn gryf eich cymhelliad ac yn barod i chwarae rôl bwysig yng Nghyfrifiad 2021.
Rhai o fuddion y rôl:
- hwb tymor byr i'ch incwm
- cyflog cystadleuol
- swydd sy'n lleol i chi
- oriau gwaith hyblyg sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau
- y cyfle i helpu i lunio dyfodol eich cymuned leol
- ffordd i ddysgu sgiliau newydd ac ychwanegu profiad at eich CV
- ymdeimlad o falchder a chyflawniad o helpu eraill a gwneud daioni
- cyfle i gwrdd ag ystod eang o bobl o bob cefndir
- cyfle i fod yn rhan o'r arolwg proffil uchel yma
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i https://www.swyddicyfrifiad.cymru/ heddiw. Nodwch: nid Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r cyflogwr.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.