Gweld swydd wag -- Seicolegydd Addysg: Cyfnod Mamolaeth

Addysg - dim addysgu
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Gwasanaethau Cynhwysiant
Soulbury
£40,136 – £49,714 + 3 phwynt SPA
Amser llawn dros dro

GWASANAETH SEICOLEG ADDYSG 

Seicolegydd Addysg 1 Llawn Amser am Gyfnod Mamolaeth tan Orffennaf 2021 yn y lle cyntaf

Graddfa Soulbury A 2-7 £40,136 - £49,714 + hyd at 3 phwynt SPA. Bydd pwyntiau SPA sydd eisoes ar waith yn cael eu hanrhydeddu

Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Cyngor Rhondda Cynon Taf yn wasanaeth mawr sy'n cynorthwyo pobl ifainc a'u teuluoedd ac ysgolion mewn ardal ddaearyddol amrywiol. Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda rhieni/cynhalwyr (gofalwyr), ysgolion ac asiantaethau partner er mwyn helpu pob plentyn a pherson ifanc i 'adeiladu dyfodol gwell'. Mae'r gwasanaeth yn gweithio'n helaeth ar lefel strategol a systemig ond yn therapiwtig hefyd gyda phlant a phobl ifainc unigol. Mae aelodau o'r garfan yn cymryd rhan weithredol mewn gwaith amlasiantaeth, gwaith rhyngddisgyblaethol, gwaith prosiect a gwaith ymchwil sy'n seiliedig ar gamau gweithredu.

Byddwch chi'n mwynhau gweithio gyda charfan fawr a chyfeillgar o Seicolegwyr Addysg cymwys sydd ag ystod eang o arbenigeddau a diddordebau. Mae'r garfan yn hyblyg yn ei dull o ddiwallu anghenion cymunedol amrywiol. Ar hyn o bryd mae gyda'r garfan nifer o is-grwpiau arbenigol mewn perthynas ag awtistiaeth, ymateb i Ddigwyddiadau Critigol a chaiff aelodau'r garfan eu hannog a'u cefnogi i ddatblygu diddordebau arbenigol a gweithio'n agos gyda chydweithwyr mewn asiantaethau partner.

Byddwch chi'n derbyn hyfforddiant ymsefydlu, mentora a goruchwyliaeth wedi'i theilwra. Mae modd gwneud ymholiadau anffurfiol drwy ffonio Kerry Webster, Dirprwy Bennaeth – RhCT ar (01443) 744333. 

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

5 diwrnod (37 awr)
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
1 Mawrth 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.