Gweld swydd wag -- Swyddog Cyfathrebu a Marchnata

Cyfathrebu, Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 8
£27,041
Amser Llawn Parhaol

Ydych chi am ddefnyddio'ch sgiliau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifainc yn eich cymuned leol? Mae cyfle cyffrous ar gael i Swyddog Marchnata Rhanbarthol ddatblygu a hyrwyddo'r strategaeth recriwtio a marchnata ar gyfer Gwasanaethau Maethu ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflawni rôl allweddol ar gyfer y gwasanaeth recriwtio rhieni maeth rhanbarthol, a bydd yn gyfrifol am ddatblygu strategaethau i wella'r broses o recriwtio rhieni maeth ledled y rhanbarth.

Bydd hyn yn cynnwys paratoi, cynllunio a rheoli cyhoeddi'r holl ddeunydd mewn perthynas â maethu. Yn rhan o hyn, bydd y swyddog yn creu a datblygu ffyrdd arloesol newydd o roi gwybod i bobl ar draws y rhanbarth am fanteision dod yn rhiant maeth.

Rydyn ni'n chwilio am ymgeisydd ymroddedig, brwdfrydig a chadarnhaol sydd â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ddatblygu gwaith marchnata'r gwasanaethau maethu ledled y rhanbarth.

Mae CBSRhCT yn cynnig llawer o fuddion i staff, gan gynnwys gweithio o bell a gweithio'n hyblyg, buddion staff ychwanegol, achlysuron lles i staff a chyfleoedd dysgu a datblygu cynhwysfawr.

Os oes gyda chi ddiddordeb yn y cyfle yma ac eisiau rhagor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Alastair Cope, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol y Gwasanaethau Maethu, ar (01685) 724604/ 07480115594.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
4 Chwefror 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.