Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Plant - Meithrinfa Oriau Dydd

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 4
£18,933 pro rata
Rhan-amser Parhaol

Mae meithrinfa oriau dydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd yn chwilio am weithiwr gofal plant cymwys. Mae'n gyfle delfrydol i weithiwr gofal plant cymwys a phrofiadol ymuno â'n carfan yn 2021. Yn ogystal â'r feithrinfa oriau dydd, mae'r lleoliad hefyd yn cefnogi lleoliadau Dechrau'n Deg ar gyfer plant cymwys o'r ardal leol. Mae gan y feithrinfa gyfleusterau hyfryd sy'n cael eu diweddaru a'u hadnewyddu'n rheolaidd, gan greu amgylchedd ysgogol i blant ac i staff.

Mae angen rhywun i weithio 5 diwrnod yr wythnos, 5.5 awr y dydd, gan weithio naill ai yn ystod sifftiau bore o 7.30am tan 1.00pm, neu sifftiau prynhawn o 12.30pm tan 6.00pm, gan drosglwyddo'r cyfnod dyletswydd rhwng staff mewn ffordd eglur er diogelwch ein plant. Mae'r rotas yn cael eu llunio o leiaf bythefnos ymlaen llaw i roi cyfle i staff gynllunio eu hymrwymiadau personol. 

Mae'r Cyngor yn frwdfrydig dros gefnogi ei weithwyr ac felly, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol yn rhan o'r swydd.

Tafliad carreg o'r brif orsaf drenau, mae'n opsiwn deniadol i rywun sy'n chwilio am her newydd ym maes gofal plant.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

27.5 awr
Pontypridd Day Nursery
National Union of Miners Building
Unit 2 Maritime Offices
CF37 1DZ
1 Chwefror 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.