Gweld swydd wag -- Peiriannydd Geodechnegol

Penseiri, Peirianwyr a Thirfesurwyr
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 11
£35,745
Amser Llawn Parhaol

Mae'r Adran Rheoli Asedau Isadeiledd sy'n rhan o Uwchadran Gwasanaethau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd yn dymuno penodi Peiriannydd Geodechnegol.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â phrofiad ym maes peirianneg geodechnegol a bydd yn rhoi cyngor ac yn rheoli'r asedau geodechnegol sylweddol y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanyn nhw. Hefyd, bydd angen i'r ymgeisydd fod yn gyfrifol am ddatblygu, cydlynu a gweithredu'r ymchwiliadau tir y mae angen eu cynnal ar gyfer rhaglenni gwaith bach a mawr, a hynny'n bennaf yn y garfan strwythurau priffyrdd, yn ogystal â rhoi cyngor i uwchadrannau eraill yn ôl yr angen.

Dyma gyfle proffesiynol rhagorol yn y maes penodol yma o beirianneg, i fod yn arbenigwr cymorth a chyngor yn yr uwchadran. Hefyd, dyma gyfle i wneud gwahaniaeth sylweddol mewn maes gwasanaeth yr Awdurdod sy'n gynyddol bwysig a heriol.

Bydd Peiriannydd Geodechnegol profiadol yn ffynnu yn y rôl yma a fydd yn darparu cyfleoedd proffesiynol a thechnegol ymarferol. Mae buddion eraill hefyd gan gynnwys cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, cyfleoedd i weithio'n hyblyg, 25 diwrnod o wyliau blynyddol a cherdyn buddion staff.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Ms Jacqueline Mynott, Rheolwr Asedau Isadeiledd ar (01443) 281186.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
11 Awst 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.