Gweld swydd wag -- Peiriannydd Strwythurol Siartredig

Penseiri, Peirianwyr a Thirfesurwyr
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Gradd 13
£48,000
Amser Llawn Parhaol

Mae'r Adran Reoli Asedau Seilwaith  sy'n rhan o uwchadran Gwasanaethau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd yn dymuno recriwtio Peiriannydd Sifil neu Strwythurol Siartredig profiadol. Bydd y swydd yma'n cynnal rhaglen cynnal a chadw a gwaith parhaus ar Strwythurau Priffyrdd a Pheirianneg ledled RhCT.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyfedr o ran rheoli, dylunio, archwilio a monitro asedau strwythurau yn unol â'r Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd a Chodau Ymarfer perthnasol. Rhaid bod ganddo/ganddi'r gallu i roi cymorth i'r Rheolwr Asedau Seilwaith gyda chyngor technegol ar Asedau Strwythurau'r Awdurdod. Rhaid i'r ymgeisydd hefyd fod â'r gallu i arwain, rheoli, cynghori, cefnogi a rheoli'r Carfanau Strwythurau yn yr Adran Asedau Seilwaith ar y safonau a'r technegau diweddaraf yn ogystal â gwybod am unrhyw newidiadau diweddar i safonau cenedlaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithredu fel arweinydd ar gyfer yr Awdurdod Cymeradwyo Technegol.

Mae profiad amlwg o ddylunio, rheoli a chynnal a chadw strwythurau priffyrdd yn hanfodol.

Dyma gyfle proffesiynol rhagorol yn y maes penodol yma o beirianneg, i fod yn arbenigwr cymorth a chyngor yn yr uwchadran. Yn ogystal â hynny, dyma gyfle i wneud gwahaniaeth sylweddol mewn maes gwasanaeth yr Awdurdod sy'n gynyddol bwysig a heriol.

Bydd Peiriannydd Strwythurol profiadol yn ffynnu yn y rôl yma a fydd yn darparu cyfleoedd proffesiynol a thechnegol ymarferol. Mae buddion eraill hefyd, gan gynnwys cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, cyfleoedd i weithio'n hyblyg, 25 diwrnod o wyliau blynyddol a cherdyn buddion staff.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Ms Jacqueline Mynott, Rheolwr Asedau Seilwaith ar (01443) 281186.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
5 Mai 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.