Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Gofal / Cynnal Cartref achlysurol

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Llety
Gradd 4
£9.81/£10.21 yr awr gan ddibynnu ar ddyletswyddau
Gweithwyr Dros Dro

CYNORTHWYWYR GOFAL/CYNNAL CARTREF            

CANOLFAN ADNODDAU CAEGLAS, PARC NEWYDD, TŶ PENTRE, CARTREF GOFAL TROED-Y-RHIW, CANOLFAN ADNODDAU TEGFAN, GARTH OLWG, YSTRADFECHAN, TŶ GLYNRHEDYNOG .

£9.81 YR AWR (GR 4) NEU £10.21 YR AWR (GR 5) GAN DDIBYNNU AR DDYLETSWYDDAU

Rydyn ni'n chwilio am staff i gyflenwi ar ran gweithwyr amser llawn. O'ch penodi i'r swydd, bydd gofyn eich bod chi ar gael ar fyr rybudd i weithio yn ystod yr wythnos, dros y penwythnos a gyda'r nos. Rydyn ni'n darparu safon uchel ac ansawdd gofal arbennig ar gyfer ein henoed eiddil a'r rhai sydd â dementia ac rydyn ni'n chwilio am unigolion addas i weithio yn ein gweithlu Gofal Cymdeithasol.

Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys tasgau cyffredinol yn ymwneud â chynnal cartref, gwaith cegin a gofal personol y preswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.

Byddwch chi'n aeddfed eich agwedd ac yn deall anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn neu o dreulio amser yn eu cwmni o fantais.

Byddwch chi'n derbyn cymorth trwy fframwaith sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) – rhaglen yw hon gyda’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cartrefi a'r carfannau rheoli canlynol:

Garth Olwg – Mrs Jennifer Daye - (01443) 203466

Canolfan adnoddau Caeglas – Mr Peter Pegley - (01443) 841234

Tŷ Pentre - Mrs Denise Traylor – (01443) 441929

Troed-y-rhiw – Mrs Elaine Cable - (01443) 473520

Parc Newydd – Miss Ruth Picton – (01443) 237848

Canolfan Adnoddau Tegfan – Mrs Pat Summers – (01685) 878485

Ystradfechan – Mrs Nicola Morgan – (01443) 773300


Ferndale House - Miss Laura Andrei (01443) 730614


Clydach Court - Mrs Dawn Williams (01443) 827388


Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.

Pan fo angen
Caeglas Resource Centre
Cardiff Road
Hawthorn
CF37 5AH
12 Ionawr 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.