Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Hamdden Lefel 1

Hamdden
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 4
£9.55 yr awr
Amser Llawn Parhaol

1 x 37 awr

1 x 12.5 awr

Canolfan Hamdden Tonyrefail

Rydyn ni'n edrych i recriwtio unigolion brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'n carfan. Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys goruchwylio defnyddwyr y pyllau nofio, gosod a rhoi offer i gadw, cynllunio gweithrediadau o ddydd i ddydd, cynnal safonau glendid a chynorthwyo yn gyffredinol i redeg y ganolfan.

Mae NPLQ cyfredol yn ofyniad hanfodol.

Bydd yr oriau gwaith ar sail rota fydd yn cynnwys gweithio gyda'r nos, ar benwythnosau ac ar Wyliau Banc.

Bydd pob ymgeisydd yn destun gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd manwl a bydd gofyn iddyn nhw gymryd rhan mewn proses ymsefydlu.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Jon Miles ar (01443) 670578.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37 / 12.5
Tonyrefail Leisure Centre
Waunrhydd Road
Tyn Y Bryn Park
CF39 8EW
21 Tachwedd 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.