Gweld swydd wag -- Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Cyfarwyddwr Lefel 2
£90,252
Amser Llawn Parhaol

CYFARWYDDWR GWASANAETHAU I BLANT

'Gyda'n gilydd, mae modd i ni adeiladu ar ein llwyddiannau'


Ydych chi am ymuno â sefydliad blaengar ac uchelgeisiol? Os ydych chi, dyma'r cyfle i chi. Mae Rhondda Cynon Taf yn Gyngor blaengar ac uchel ei gyflawniad, sy'n cynnal gwasanaethau ar gyfer poblogaeth oddeutu 230,000 o drigolion ar draws Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái. Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar hyrwyddo diwylliant o arloesi a meithrin hyder sydd wedi esgor ar syniadau newydd a mentrau uchelgeisiol ar draws y Cyngor.

Oherwydd bod y Cyfarwyddwr yn ymddeol, dyma gyfle i chi ymuno â ni i fod yn rhan o'r llwyddiant yma ac arwain gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer plant a phobl ifainc. Er ein bod ni'n hyderus, mae lle i wella o hyd ac rydyn ni'n awyddus i barhau â'n gwaith gwella. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ar gyfer y grŵp defnyddwyr gwasanaeth yma. Byddwch chi'n gyfrifol am gyllideb o oddeutu £48 miliwn a tua 600 o staff. Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys gofal cymdeithasol i blant, diogelu, ymyrraeth gynnar ac atal a gwasanaethau ieuenctid (gan gynnwys troseddwyr ifanc).
 
 Rydyn ni'n credu ein bod ni wedi meithrin carfan rheoli gryf ei chymhelliad gyda llawer o brofiad a gwybodaeth leol. Bydd angen i chi ddod â'ch dull arweinyddiaeth, creadigrwydd ac arloesedd yn rhan o garfan wedi'i hen sefydlu a phrofiadol. Byddwch chi'n derbyn cymorth rheoli a gwleidyddol cryf, gydag Aelodau Etholedig a phartneriaid sy'n deall cymhlethdod a phwysigrwydd ein gwaith.
Rydyn ni eisiau i chi chwarae eich rhan wrth gyflawni ein strategaeth gwella, i sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn parhau i symud yn ei blaen mewn modd sy'n cysylltu ein cymunedau ac sy'n cefnogi ein plant a'u teuluoedd. Byddwch yn gwneud hyn trwy'u cadw'n ddiogel ac yn iach a rhoi pob cyfle iddynt lwyddo.



P'un a ydych chi'n Bennaeth Gwasanaeth neu'n chwilio am y cam nesaf yn eich gyrfa, bydd y rôl yma'n rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth mawr. Os ydych chi'n edrych i weithio gyda chydweithwyr ar draws y Cyngor a gyda'n partneriaid i wella bywydau ein holl blant, pobl ifainc a theuluoedd, byddwn ni'n falch o glywed gennych chi.

 Byddwch chi'n ymuno â'n carfan arweinyddiaeth uchelgeisiol wedi'i harwain gan ein Prif Weithredwr, Christopher Bradshaw. Byddwch chi'n rhan o Gyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant wedi'i harwain gan Giovanni Isingrini.

Os oes gyda chi olwg benderfynol, yr egni a’r ddawn i fod yn rhan o lwyddiant y Cyngor yn y dyfodol, yna bydden ni’n croesawu eich cais. I gael sgwrs gyfrinachol, ffoniwch Giovanni Isingrini, Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ar 01443 424141.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
20 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.