Gweld swydd wag -- Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (Cymwys o ran Bwyd)

Iechyd yr amgylchedd
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 11
£34,788
Amser llawn dros dro

Dyma gyfle dros dro (neu secondiad posibl) i weithio'n Swyddog Iechyd yr Amgylchedd am chwe mis yn rhan o'r Garfan Iechyd a Diogelwch a Bwyd.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnal arolygiadau hylendid bwyd rheolaidd, yn ogystal ag arolygiadau mewn busnesau newydd. Bydd y swyddog yn ymchwilio i glefydau heintus yn rheolaidd.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymchwilio i geisiadau am wasanaeth sy'n dod i law gan aelodau'r cyhoedd, busnesau bwyd a chynghorwyr/aelodau lleol.  

Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd mewn Iechyd yr Amgylchedd neu gyfwerth a bod ar gofrestr bwrdd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.  Bydd y swyddog hefyd yn gymwys yn unol â chod ymarfer cyfraith bwyd.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch: Rhian Hope/ Kelly Snare ar (01443) 425324.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

35/37 awr
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
22 Tachwedd 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.