Gweld swydd wag -- Blaen Beiriannydd - Prosiectau
Mae Carfan Prosiectau
Adran Prosiectau Strategol y Cyngor yn gyfrifol am werthuso, dylunio, adeiladu, goruchwylio a rheoli amrywiaeth eang o brosiectau cyffrous a heriol. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau isadeiledd y priffyrdd, trawsgludo, adfer tir, draenio, sefydlogi tir, a phrosiectau ar dir wedi'i lygru. Mae gyda'r adran gyfrifoldeb hefyd dros Reoli Perygl Llifogydd a Thomenni.
Rydyn ni eisiau penodi unigolyn addas i'r swydd uchel yma i helpu'n bennaf ym maes prosiectau'r gwasanaeth. O'ch penodi, byddwch chi'n gallu rheoli carfan o staff technegol i ymgymryd â phob agwedd o waith cyflawni prosiectau. Mae'n hanfodol bod gan yr ymgeiswyr wybodaeth ragorol am Beirianneg Sifil a rheoli prosiectau, ac mae'n ddymunol bod ganddyn nhw wybodaeth am beirianneg dŵr/amgylcheddol.
Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar gymhwyster Tystysgrif Genedlaethol Uwch neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch, a byddai cymhwyster proffesiynol IEng. neu uwch yn ddymunol. Mae disgwyl iddo neu iddi feddu ar sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig a sgiliau TGCh da. Mae profiad ym maes Peirianneg Sifil, gan gynnwys rheoli prosiectau, rheoli cyllidebau a gwerthuso/dylunio prosiectau yn hanfodol ac mae profiad o reoli carfan dechnegol yn ddymunol.
I gael sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Mr Andrew Stone, Rheolwr Prosiectau Strategol, ar (01443) 281104.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.