Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (EDT)

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 13
£40,760
Amser Llawn Parhaol

 1 x 37 awr ac 1 x 18.5 awr

Wedi'i leoli yn yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth – Gorsaf Heddlu Pontypridd

Mae Carfan ar Ddyletswydd (EDT) Rhondda Cynon Taf ar gyfer Argyfyngau yn cynnal gwasanaeth gwaith cymdeithasol cyffredinol brys yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n chwilio am Ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol profiadol i ymuno â'n carfan ar gytundeb llawn neu rhan amser, ar alw neu'n gweithio o swyddfa. Rhaid i'r person yma feddu ar y ddawn a'r sgiliau priodol i weithio yn rhan o rota benodedig, darparu gwasanaeth ar alw mewn achos o argyfwng tu allan i oriau swyddfa i blant ac oedolion bregus. Bydd y swydd naill ai ar ddyletswydd wrth gefn neu wedi'ch lleoli yn y swyddfa.

Rydyn ni'n chwilio am rywun gyda sgiliau asesu a dadansoddi craff sy'n gallu cynnal asesiadau risg cadarn a gwneud penderfyniadau mewn argyfwng. Byddwch chi'n gweithio yn rhan o'n carfan brysur ac yn meddu ar y gallu i weithio gydag eraill megis yr Heddlu a Gweithwyr Proffesiynol Iechyd.

Mae'n hanfodol eich bod yn meddu ar Gymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol a'ch bod wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Yn ogystal â hyn, mae meddu ar gymhwyster gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (AMHP) yn ddymunol dros ben. Cewch chi arian ychwanegol os bydd gennych chi gymhwyster AMHP a chewch chi arian ychwanegol am weithio yn ystod oriau anghymdeithasol (ar ôl 10pm).

O lwyddo yn eich cais, cewch chi'ch penodi ar amod derbyn sêl bendith proses gwirio lefel 3 heb fod ar gyfer yr Heddlu.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Rob Hibbert, Rheolwr Carfan, ar (01443) 742922 neu 07880 044499.

BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37 awr a 18.5 awr
Pontypridd Police Station
Berw Road
Pontypridd
CF37 2TR
14 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.