Gweld swydd wag -- Gweithwyr Cymdeithasol - Timau ACP Dwyrain a Gorllewin

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 11
£35,745 ynghyd ag ychwanegiad marchnad sy'n daladwy ar ôl y flwyddyn gyntaf yn ymarferol. Bydd £ 1,000 y flwyddyn yn daladwy ar gyfer blwyddyn 2, ac yna £ 1,000 y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer blwyddyn 3. Mae taliad pellach o £ 2,000 y flwyddyn yn daladwy i gydnabod gwaith a wneir yn y tîm rheng flaen hwn, waeth beth yw hyd y profiad cymwys. Bydd y ddau daliad hyn yn cael eu talu pro rata yn fisol.
Amser Llawn Parhaol

Mae adran Gwasanaethau i Blant Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o gynnig cyfle gwaith cymdeithasol yn rhan o'r Gwasanaeth Ymyrraeth Ddwys.

Mae gan bob un o'n hymarferwyr y cyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddo ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau Strategol a Gweithredol.

Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un ymestynnol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein hadran Gwasanaethau i Blant wedi elwa ar fuddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.

YMYRRAETH DDWYS

Mae'r gwasanaeth wedi'i rannu'n ddwy - y Dwyrain a'r Gorllewin. Mae swyddfa'r Dwyrain yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, ac mae swyddfa'r Gorllewin yn Nhonypandy, Cwm Rhondda.

Rydyn ni'n disgwyl i'n swyddogion feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Plant, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid iddyn nhw fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid iddyn nhw fod wedi gweithio ym maes gofal plant, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. A chithau wedi ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.

Os ydych chi'n dechrau eich gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, cewch chi ddod yn rhan o raglen cymorth cyfoedion Blwyddyn Ymarfer Gyntaf. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.

Byddwn ni'n disgwyl i chi reoli baich achosion penodol wrth adeiladu a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Mae rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Am ragor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol, ffoniwch , Nicola Bowditch, Rheolwr Gwasanaeth Dwyrain ar (01443) 444560 neu Julie Evans, Rheolwr Gwasanaeth Gorllewin ar (01443) 425006.

Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Rhondda Principal Office
Berw Road
Tonypandy
CF40 2HH
16 Tachwedd 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.