Gweld swydd wag -- Swyddog Gweinyddol – Prosiect Ysbrydoli i Weithio

Gweinyddol a chlerigol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 7
£23,836
Cyfnod Penodol

Mae carfan Ysbrydoli i Weithio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am benodi Swyddog Gweinyddol pwrpasol am 37 awr yr wythnos tan fis Rhagfyr 2020. Dyma gyfle posibl am secondiad, ond dylai'ch rheolwr llinell awdurdodi hyn cyn i chi wneud cais. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod y prosiect Ysbrydoli i Weithio yn darparu gwasanaeth o'r safon uchaf i bobl ifainc (16-25 oed) o fewn gofynion Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru.

Bydd Prosiect Rhanbarthol Ysbrydoli i Weithio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) yn targedu pobl ifainc sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant. Mae llawer o'r bobl yma yn wynebu rhwystrau cymhleth o ran cyflogaeth.

Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol sydd â dealltwriaeth dda o brosesau ariannol a chydymffurfiaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, yn ogystal â sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf.

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad blaenorol o reoli a chydymffurfiaeth prosiectau wedi'u hariannu, yn ogystal â phrofiad o weithio'n rhan o bartneriaeth.

Pe hoffech chi wybodaeth ychwanegol am y swydd, ffoniwch Damien Owen ar 01443 425373 neu anfon e-bost at damien.owen@rctcbc.gov.uk.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Elai
Williamstown
Tonypandy
CF40 1NY
18 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.