Gweld swydd wag -- ~~OPPORTUNITY_TITLE_33485436-3911-441A-A8E8-FDD2C312ED2E~~

Arall
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 9
£28,785
Amser llawn dros dro

Mae Cyfarwyddiaeth Cyfadran y Gwasanaethau i'r Gymuned a Gwasanaethau i Blant Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn awyddus i gyflogi Cydlynydd Datblygu'r Gymuned ar gyfer Canolfan Pennar a Phlaza'r Porth (Hybiau Cymunedol) am gyfnod hyd at 31 Mawrth 2020 i ddechrau.

Yn rhan o Garfan Datblygu'r Gymuned frwdfrydig a phrofiadol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfathrebwr rhagorol, yn gallu deall, cefnogi ac arwain datblygiadau ar lefel leol, a bydd ganddo ddealltwriaeth sylweddol o grwpiau cymunedol ac arweinwyr o fewn y gymuned leol.

Gyda phrofiad gweithio mewn partneriaeth a chefndir cryf mewn datblygu ac ymgysylltu cymunedol, bydd Cydlynydd Datblygu'r Gymuned yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad partneriaethau, a bydd yn gwneud trefniadau i gefnogi datblygiad y Rhwydweithiau Bro.

Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol o safon uchel a all weithio mewn partneriaeth ystyrlon â sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ac a all wneud gwahaniaeth cynaliadwy wrth Adeiladu Cymunedau Cydnerth yn lleol.

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau secondiad - trafodwch â'ch rheolwr llinell cyn gwneud cais.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Sian Evans ar (01443) 281188/07557480777 neu e-bostiwch sian.h.evans@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch Syd Dennis ar (01443) 425751/07471140722 neu e-bostiwch syd.b.dennis@rctcbc.gov.uk.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Canolfan Pennar
Oxford Street
Mountain Ash
CF45 3HD
5 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.