Gweld swydd wag -- Technegydd (Carfan Dylunio Prosiectau)
PROSIECTAU STRATEGOL (CARFAN PROSIECTAU)
Technegydd - Dylunio Priffyrdd a Draenio
Mae'r Adran Prosiectau Strategol yn chwilio am Dechnegydd Dylunio llawn amser a fydd yn helpu i gyflawni amrywiaeth eang o brosiectau priffyrdd a draenio cyffrous a heriol. Bydd y rhain yn amrywio o welliannau bach i ffyrdd mawr newydd.
Mae'r Garfan Prosiectau yn gyfrifol am waith reoli prosiectau, dylunio, caffael, a goruchwylio safleoedd sy'n gysylltiedig â phrosiectau priffyrdd ar hyd a lled yr awdurdod. Mae'r swydd yma wedi'i lleoli o fewn y Garfan Dylunio Prosiectau, sy'n cynnwys cyflawni astudiaethau dichonoldeb, gwaith dylunio priffyrdd gan gynnwys cynllun y ffordd, gwaith draenio, gwaith tir, arwyddion traffig ac ati, arwain gwaith caffael a phenodi contractwyr adeiladu.
Mae'r mathau o brosiect fel arfer yn cynnwys mesurau gostegu traffig, llwybrau teithio llesol, gwelliannau i'r gyffordd a lledaenu cyffordd, yn ogystal ag isadeiledd y priffyrdd newydd.
Does dim cymhwyster gofynnol ond mae ONC/OND mewn peirianneg sifil neu ddisgyblaeth debyg yn ddymunol. Mae profiad o waith isadeiledd y priffyrdd a/neu wybodaeth am beirianneg sifil yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Bydd sgiliau TGCh da a'r defnydd o systemau CAD yn elfen hanfodol o'r swydd.
Bydd y swydd llawn amser, barhaol wedi'i lleoli yn Nhŷ Sardis, Pontypridd. Bydd deiliad y swydd yn gweithio 37 awr yr wythnos yn rhan o'r cynllun gweithio hyblyg gyda 25 diwrnod o wyliau blynyddol (sy'n codi i 30 ar ôl 5 mlynedd) yn ogystal â'r cyfle i ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
I gael trafodaeth anffurfiol neu wybodaeth bellach ynghylch y swydd, ffoniwch Mr Neil Morris, Uwch Blaen Beiriannydd ar (01443) 281105.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.