Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth Ymgysylltu

Pobl Ifainc a'r Gymuned
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 6
£10.97 yr awr
Rhan-amser Parhaol

Gweithiwr Cymorth Ymgysylltu

6 awr yr wythnos

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEP) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn chwilio am Weithwyr Cymorth Ymgysylltu er mwyn hwyluso darpariaeth Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid o safon uchel o fewn ardal leol benodol. Byddwch chi'n rhoi cymorth mewn perthynas â gwaith cynllunio, gweithredu a gwerthuso'r rhaglen o weithgarwch sy wedi cael ei chytuno, mewn ymgynghoriad â phobl ifainc. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau sy'n cael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol gyda'r hwyr, ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Bydd angen i chi baratoi, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau dysgu mewn amrywiaeth o leoliadau yn unol â'r Strategaeth Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid yn ôl cyfarwyddyd Arweinydd y Garfan a sicrhau lles pobl ifainc drwy gadw at bolisïau  iechyd a diogelwch a diogelu.

Rydyn ni'n chwilio am 2 Weithiwr Cymorth Ymgysylltu rhan amser (1 yn barhaol ac 1 i lenwi cyfnod mamolaeth). Byddwch chi angen tystysgrif Lefel 3 neu uwch mewn Gwaith Ieuenctid a Gwaith Cymuned. Os oes profiad gyda chi o weithio gyda phobl ifainc ac ymrwymiad at yrru'r agenda yma yn ei flaen, gofynnwch am ragor o wybodaeth.

Am ragor o fanylion, ffoniwch Louise Simpson, Arweinydd y Garfan, Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ar (01443) 281436 neu e-bostio louise.simpson@rctcbc.gov.uk.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

6
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
20 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.