Gweld swydd wag -- Gofalwr yr Amlosgfa
Mae cyfle wedi codi o fewn y Gwasanaethau Profedigaeth, i benodi Gofalwr i weithio yn Amlosgfa Glyn-taf. Bydd y rôl yma'n cynnwys gofalu am yr holl waith allanol ar dir yr Amlosgfa, yn unol â chyfarwyddyd. Bydd hynny'n cynnwys cloddio plotiau claddu a chynnal a chadw'r tir.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo holl ddefnyddiwr y cyfleuster ym mhob ffordd bosibl. Bydd y rhain yn cynnwys y cyhoedd, trefnyddion angladdau a gweinidogion.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymrwymo i ddarparu gofal i gwsmeiriaid, rhaid iddo fod yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol a rhaid iddo allu cwblhau tasgau yn effeithlon ac i derfynau amser pendant mewn tywydd garw ar adegau. Prif ddiben y swydd yw gofalu am y sawl sy'n galaru mewn ffordd broffesiynol, urddasol.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd, ffoniwch Ceri Pritchard ar (01685) 874115 neu Jayne Beer ar (01443) 402810.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.