Gweld swydd wag -- Uwch Ymarferydd Dros Dro

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 12
£37,849 pro rata
Rhan-amser dros dro

Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau am swydd Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol gyda Charfan Gofal a Chymorth Dwyrain 3 yn Swyddfa Cwm Cynon, Trecynon Aberdâr.

Dyma garfan brysur sy'n gweithio gydag unigolion a'u cynhalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (2014) i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd / cynhalwyr ag anghenion gofal a chymorth cymhleth i gyflawni canlyniadau personol cadarnhaol. Mae disgwyl, felly, i Uwch Ymarferydd y garfan yma chwarae rhan weithredol. Bydd hefyd yn aelod da o garfan, yn gallu adnabod y cyfoeth o brofiad sydd ar gael iddo yn y Garfan Gofal a Chymorth, a manteisio ar hynny. Rydyn ni'n chwilio am Uwch Ymarferydd sydd â'r profiad a'r brwdfrydedd i chwarae rhan weithredol wrth ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i ddefnyddwyr ein gwasanaeth. Mae gwerthoedd cadarn, sgiliau cyfathrebu ardderchog ac agwedd sy'n rhoi'r cleient yn gyntaf yn gwbl hanfodol. Mae gwybodaeth am y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf Galluedd Meddyliol, y broses Budd Gorau, gwaith y Llys Gwarchod ac Asesiadau Gofal Iechyd Parhaus yn hanfodol i'r rôl yma.

Byddwch chi'n cefnogi Rheolwr y Garfan drwy ymgymryd â rôl hyfforddi a mentora i annog arfer da ac i ddatblygu'r garfan. Byddwch chi hefyd yn goruchwylio rhai aelodau staff. Bydd disgwyl i chi allu cynnig cyngor ac arweiniad arbenigol i'r garfan. Byddwch chi'n delio â nifer fechan o achosion cymhleth, a bydd disgwyl i chi gyd-weithio â'r unigolion a'u teuluoedd/cynhalwyr i sicrhau'r canlyniadau gorau; gan hefyd gydbwyso risg ynghylch annibyniaeth a dewis yr unigolyn.  Yn y swydd yma, byddwch chi hefyd yn cynorthwyo Rheolwr y Garfan gyda gwaith gweinyddol sydd ynghlwm â rhedeg y garfan.

O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n effro i'r ddeddfwriaeth sy'n llywio Gwasanaethau Gofal a Chymorth, a bydd gofyn i chi ddangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Bydd gyda chi gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol perthnasol, h.y. gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu'i rhagflaenydd cydnabyddedig cyfwerth. Rhaid eich bod wedi cofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru a gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol mewn rôl rheoli gofal.

Am sgwrs bellach am y swydd, ffoniwch Julie Lineham (Rheolwr y Garfan) neu Beth May (Rheolwr Gwasanaeth) ar (01685) 887826.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

18.5
East 3 Care and Support Team
Cynon Principle Office
Llewellyn Street
CF44 8HU
27 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.