Cyfeiriad e-bost wedi newid

Os ydych chi wedi newid eich cyfeiriad e-bost, mae modd addasu'ch manylion yn y ‘Ganolfan Ymgeisio’.

Sut i newid cyfeiriad e-bost

Y Ganolfan Ymgeisio ydy'r man gwnaethoch chi'ch cais yn wreiddiol. Defnyddiwch y manylion mewngofnodi a gafodd eu rhoi i chi a chliciwch ar y cyswllt ‘Golygu manylion personol’. Bydd hyn yn eich galluogi chi i olygu a diweddaru eich manylion personol, hynny yw, eich cyfeiriad e-bost, eich cyfeiriad cartref ac ati. Er gwybodaeth: Os byddwch chi'n newid eich cyfeiriad e-bost, fydd eich enw defnyddiwr ddim yn newid. Fydd eich enw defnyddiwr ddim yn cael ei newid yn awtomatig i gyd-fynd â'ch cyfeiriad e-bost newydd.

Fel arall, rhowch wybod i ni ynglŷn â'ch cyfeiriad e-bost newydd drwy lenwi'r ffurflen gymorth a sicrhau eich bod chi'n nodi o leiaf ddau o'r manylion canlynol: enw defnyddiwr, cyfrinair neu'ch cod post. Er rhesymau diogelwch a chyfreithiol, dydyn ni ddim yn gallu newid manylion unrhyw gyfrif heb dystiolaeth o bwy ydych chi a chaniatâd. Er mwyn anfon e-bost, atebwch ‘Nac ydy’ i'r cwestiwn isod. Mae'n bosibl y bydd y newid hwn yn cymryd hyd at 48 awr i'w gwblhau.

Pynciau perthnasol