Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol - Carfan Ymholi ac Asesu

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 11
£34,788 ynghyd ag ychwanegiad marchnad sy'n daladwy ar ôl y flwyddyn gyntaf yn ymarferol. Bydd £ 1,000 y flwyddyn yn daladwy ar gyfer blwyddyn 2, ac yna £ 1,000 y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer blwyddyn 3. Mae taliad pellach o £ 2,000 y flwyddyn yn daladwy i gydnabod gwaith a wneir yn y tîm rheng flaen hwn, waeth beth yw hyd y profiad cymwys. Bydd y ddau daliad hyn yn cael eu talu pro rata yn fisol.
Amser Llawn Parhaol

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o gynnig cyfle i Weithwyr Cymdeithasol ymuno â'n Adran Gwasanaethau i Blant.

Mae gan bob un o'n hymarferwyr y cyfle i ddylanwadu ar y ffordd mae'n gwaith ni'n datblygu. Maen nhw hefyd yn cael cefnogaeth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau Strategol a Gweithredol.

Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Rydyn ni'n ymroddedig i wireddu uchelgeisiau'r sawl sy'n dilyn llwybr gyrfa Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Ers cryn amser, rydyn ni wedi sefydlu nifer fechan o swyddi Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol ym maes Gwasanaethau i Blant.

Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae'n Hadran Gwasanaethau i Blant wedi elwa o fuddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar y gwasanaethau rheng flaen.

Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar

Rydyn ni'n disgwyl i'n hymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol y Ddeddf Plant ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall, ar yr wybodaeth ddiweddaraf am broblemau newydd ac ar brofiad neu ddiddordeb mewn gweithio o fewn maes gofal plant. Byddwch yn ymroddedig i ymarfer sydd heb fod yn ormesol, a bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.

Gweithiwr Cymdeithasol

A chithau'n Weithiwr Cymdeithasol, byddwch chi'n rheoli llwyth gwaith dynodedig ac er bydd gyda chi waith heriol, cewch chi gymorth gan eich carfan a boddhad yn y swydd. Byddwch chi hefyd yn cael sesiynau goruchwylio anffurfiol a ffurfiol rheolaidd a bydd nifer o gyfleoedd hyfforddi priodol ar gael.

I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch yn derbyn cefnogaeth i fynychu rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf fel ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.

Rhaid i chi feddu ar gymhwyster cydnabyddedig mewn Gofal Cymdeithasol. Rhaid bod gyda chi ddealltwriaeth glir o oblygiadau'r Ddeddf Plant ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall. Bydd profiad gyda chi o weithio ym maes gofal plant neu ddiddordeb i wneud hynny.

Bydd yn ofynnol eich bod chi wedi cofrestru fel 'Gweithiwr Cymdeithasol' gyda Chyngor Gofal Cymru.

Ffoniwch Gemma Griffiths, Rheolwr y Gwasanaeth ar (01443) 420963 i gael rhagor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol.

Bydd y gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch yn clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Rhondda Principal Office
Berw Road
Tonypandy
CF40 2HH
14 Ebrill 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.