Gweld swydd wag -- Golygydd WICID

Pobl Ifainc a'r Gymuned
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 7
£23,836
Amser llawn dros dro

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn chwilio am Olygydd WICID er mwyn hwyluso darpariaeth Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid o safon uchel.

Bydd hyn yn cynnwys cefnogi'r awdurdod gyda'i waith o hwyluso darpariaeth Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid o safon uchel mewn ardal leol benodol. Bydd angen i ddeiliad y swydd gefnogi pobl ifainc yn RhCT a bod yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal holl gyfrifon y cyfryngau cymdeithasol sy'n cael eu defnyddio gan y Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod yr holl wybodaeth a chyfathrebu yn gywir, addas ac yn amserol, a'u bod yn cydymffurfio â safonau'r Gymraeg a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.   Bydd yn gyfrifol am baratoi a dosbarthu deunydd cyfathrebu amlgyfrwng ar ran y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifainc a'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth. Byddwch chi'n darparu gwybodaeth a chymorth i bobl ifainc 11-25 oed ledled RhCT trwy wefan WICID.

Rydyn ni'n chwilio am Olygydd WICID llawn amser i weithio swydd dros dro. Os oes gyda chi brofiad o weithio gyda phobl ifainc ac rydych chi'n ymrwymo i lywio'r agenda yma, anfonwch neges i gael manylion pellach.

I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Hayley John, Arweinydd y Garfan, Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ar (01443) 281434 neu e-bostio Hayley.John@rctcbc.gov.uk.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
20 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.