Gweld swydd wag -- Gofalwr yr Amlosgfa

Parciau a Gerddi
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 4
£18,426
Amser Llawn Parhaol

Mae cyfle wedi codi o fewn y Gwasanaethau Profedigaeth, i benodi Gofalwr i weithio yn Amlosgfa Glyn-taf.  Bydd y rôl yma'n cynnwys gofalu am yr holl waith allanol ar dir yr Amlosgfa, yn unol â chyfarwyddyd. Bydd hynny'n cynnwys cloddio plotiau claddu a chynnal a chadw'r tir.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo holl ddefnyddiwr y cyfleuster ym mhob ffordd bosibl.  Bydd y rhain yn cynnwys y cyhoedd, trefnyddion angladdau a gweinidogion.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymrwymo i ddarparu gofal i gwsmeiriaid, rhaid iddo fod yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol a rhaid iddo allu cwblhau tasgau yn effeithlon ac i derfynau amser pendant mewn tywydd garw ar adegau. Prif ddiben y swydd yw gofalu am y sawl sy'n galaru mewn ffordd broffesiynol, urddasol.

Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd, ffoniwch Ceri Pritchard ar (01685) 874115 neu Jayne Beer ar (01443) 402810.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Glyntaff Crematorium
Cemetery Road
Glyntaff
CF37 4BE
8 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.