Gweld swydd wag -- Cynorthwyydd Hamdden Achlysurol – Lefel 1
Rydyn ni'n chwilio am garfan o staff achlysurol dibynadwy i weithio yng Nghanolfannau Hamdden Rhondda Cynon Taf. O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n cyflenwi ar gyfer staff parhaol sy'n absennol, felly mae'n bosibl y bydd disgwyl i chi fod ar gael ar fyr rybudd.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys gosod a dadosod offer yn ôl y gofyn, glanhau a chynnal a chadw offer a chyfleusterau yn y Ganolfan, a goruchwylio a delio ag ymholiadau cwsmeriaid.
Ar gyfer canolfannau sydd â chyfleusterau nofio, bydd raid i chi oruchwylio wrth ochr y pwll. Rhaid i chi fod â chymhwyster Achub Bywyd ('RLSS National Pool Lifeguard') i weithio ar y safleoedd yma. Bydd rhai cyfleusterau yn gofyn i chi weithio yn yr awyr agored er mwyn cynnal a chadw'r caeau chwarae a'r ardaloedd ategol cysylltiedig (bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu).
Mae sicrhau Iechyd a Diogelwch cwsmeriaid a staff yn hanfodol a bydd hyfforddiant priodol ar gael i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am y swyddi yma, ffoniwch Andrew Morris ar (01443) 424836.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.