Gweld swydd wag -- Therapydd Galwedigaethol

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 11
£34,788
Amser llawn dros dro

Mae cyfle wedi codi i ymuno a'r Garfan Cymorth yn y Cartref (Gwasanaeth Gofal Canolraddol ac Ailalluogi ) i fod yn therapydd galwedigaethol dros dro.

Byddwch chi'n rhan o garfan Cymorth Gartref. Mae'r garfan wedi'i lleoli yn Nhŷ Elái ac yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaeth wella o'u salwch ac atal cyfnodau o ddirywiad iechyd eraill lle mae'n bosibl.

Weithiau ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, gall pobl golli hyder a phoeni am eu diogelwch a'u gallu i ymdopi gartref. Mae'r Gwasanaethau Gofal Canolraddol yn tawelu meddwl defnyddwyr y gwasanaeth ac mae'n eu hannog i gynnal sgiliau byw sylfaenol, i'w hail-ddysgu neu i'w dysgu. Mae'n rhoi cymorth i bobl gyflawni eu llawn botensial ac i atal neu leihau'r angen i ddefnyddio ein gwasanaethau yn y gymuned dros dymor hirach.

Bydd angen i chi sicrhau bod unigolion yn cael cymorth yn y gymuned drwy raglen 6 wythnos er mwyn iddyn nhw ddod mor annibynnol â phosibl. Mae'r gwasanaeth yn elwa ar gael amrywiaeth o staff. Yn eu plith y mae Staff Gofal, Goruchwylwyr, Staff Gweinyddol, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Cynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol a Chynorthwy-wyr Ymarferwyr Therapi. Maen nhw'n cael cymorth gan Arweinydd Carfan.

Byddwch chi'n Therapydd Galwedigaethol cymwysedig sydd â phrofiad o oruchwylio staff neu fyfyrwyr. Bydd gennych chi brofiad mewn lleoliad cymunedol a thystiolaeth o'r profiad hwnnw. Byddwn ni'n ystyried ymgeiswyr sy wedi cael profiad yn y gymuned yn rhan o'u hyfforddiant neu brofiad gwaith. O'ch penodi, byddwch chi'n gyfrifol am lwyth gwaith, byddwch chi'n goruchwylio aelodau dynodedig o'r garfan a byddwch chi'n rhoi cymorth iddyn nhw. Byddwch chi'n cael eich goruchwylio, a chewch gymorth, gan Reolwr y Garfan. Caiff cymorth, hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa eu cynnig i chi'n llawn er mwyn i chi ddatblygu sgiliau ac ymarfer ac er mwyn cynorthwyo i ddiwallu anghenion o ran ymarfer a gwybodaeth.

Caiff y gwasanaeth ei newid a bydd rhai gofynion achlysurol i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau, gan gynnwys gwyliau banc. 

Croesawn geisiadau gan bobl sydd â diddordeb. Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, ffoniwch – David Williams, Arweinydd Clinigol ar 01443 444650 neu Su Lambert, Rheolwr Cymorth yn y Cartref ar 01443 425462.

Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.

BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS. 

37
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF401NY
3 Chwefror 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.