Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Cartref - Swyddi Achlysurol

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 5
£9.94 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Mae angen Gweithwyr Gofal Cartref Achlysurol yn Rhondda Cynon Taf i ymuno â'n carfan sy'n tyfu.

Byddwch chi'n rhoi cymorth i unigolion gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd gofyn i chi ddarparu gofal ymarferol pan fo angen. Bydd y cymorth hwnnw yn adlewyrchu dewisiadau unigol er mwyn gwella annibyniaeth ac ansawdd bywyd yr unigolyn.  Mae hyn yn galluogi unigolion i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw ac sy'n hollbwysig i'w hiechyd a'u lles.

Byddwch chi’n gweithio yn rhan o’n Carfan Cymorth Gartref (Gofal Gartref, Gofal Canolradd ac Adsefydlu) gan weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol a rhoi cymorth wrth ddarparu Gwasanaeth Gofal yn y Cartref o ddydd i ddydd yn y gymuned, boed hynny yng nghartref personol yr unigolyn neu'i fan preswyl.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu 365 diwrnod y flwyddyn ac mae oriau gwaith yn amrywio o 7.30am tan 10pm.

Rhaid eich bod chi'n ymrwymo i'r swydd, yn ddibynadwy ac yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd. Rhaid meddu ar y gallu i weithio ar eich liwt eich hun. Rydyn ni'n chwilio am staff blaengar a fydd yn helpu i symud ein gwasanaeth ymlaen at y lefel nesaf.

Rhaid bod gyda chi'r modd i deithio'n annibynnol ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Debra Hughes neu Hayley Thorne ar (01443) 444656.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol.  Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Yn ôl y galw
Rhondda
Cynon
Taff
CF40 1NY
15 Ionawr 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.