Sut i ddileu cwcis yn Internet Explorer
Internet Explorer 6
- Agorwch Internet Explorer.
- Ewch i ‘Tools’, yna, cliciwch ar ‘Internet options’.
Cliciwch ar y tab ‘General’.
Cliciwch at y botwm ‘Delete cookies’ a chliciwch ar ‘OK’ er mwyn dileu pob cwci yn y blwch ‘temporary files’.
Cliciwch ar y botwm ‘Delete files’. (Gwnewch yn siŵr eich bod chi, hefyd, yn ticio ‘Delete all offline content’).
Yna, cliciwch ar y tab ‘Privacy’ ac ‘Advanced options’ (gwnewch yn siŵr bod tic gwyrdd yn y blwch ‘Override auto cookie handling’ a thic gwyrdd yn y blwch ‘Always allow session cookies’).
Cliciwch ar ‘OK’ ym mhob ffenestr, aildeipiwch gyfeiriad y wefan a mynd trwy'r camau hyd nes y byyddwch chi'n cyrraedd y ffurflen gais.
Internet Explorer 5
Ewch i ‘Tools’, yna, cliciwch ar ‘Internet options’.
Yna, cliciwch ar y tab ‘General’.
- Yn yr adran ‘Temporary Internet Files’, cliciwch ar y botwm ‘Delete Files’.
- Bydd y ffenestr ‘Delete all files in the Temporary Internet Files folder’ yn ymddangos. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ticio ‘Delete all offline content’.
Cliciwch ar ‘OK’.