Newid manylion cyswllt

Os ydy'ch cyfeiriad, eich rhif ffôn neu'ch cyfeiriad e-bost wedi newid ers i chi gofrestru, cewch chi newid eich manylion. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod.

Y diweddaraf gan y Tîm Recriwtio

Cewch chi, hefyd, roi gwybod i ni ynglŷn â'ch cyfeiriad, cyfeiriad e-bost neu rif ffôn newydd drwy gysylltu â'r Tîm Recriwtio – cliciwch ar y botwm ‘Cysylltu â ni’ ar ochr chwith y dudalen hon ac atebwch ‘Ydy’ i'r cwestiwn a fydd yn cael ei ofyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n nodi'r manylion canlynol: eich enw llawn a'r cyfeiriad e-bost rydych chi wedi'i gofrestru. Er rhesymau diogelwch a chyfreithiol, dydyn ni ddim yn gallu newid manylion unrhyw gyfrif heb dystiolaeth o bwy ydych chi a chaniatâd.

Mae'n bosibl y bydd eich cais yn cymryd hyd at 48 awr i gael ei gyflawni.