Gweld swydd wag -- Rheolwr Materion Asesu Gofal

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 10
£31,371
Amser llawn dros dro

Rheolwyr Materion Asesu Gofal Dros Dro (am 2 flynedd i ddechrau)

Mae Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi Rheolwyr Materion Asesu Gofal sydd â'r brwdfrydedd a'r ymroddiad i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i blant a phobl ifainc.

Byddwch chi'n rheoli llwyth achosion sy'n gofalu am blant a phobl ifainc sydd angen gofal a chefnogaeth a llwyth achosion rhai sy'n derbyn gofal.  Byddwch chi'n gweithio o fewn carfan o staff cymwys a rhai sydd heb gymhwyso a dylai fod gennych chi sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i ffurfio perthnasoedd effeithiol ag ystod o bartneriaid. Dylai fod gyda chi brofiad o weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifainc.  Bydd goruchwyliaeth reolaidd a rhaglen barhaus o hyfforddiant, gan gynnwys ystod amrywiol o gyfleoedd dysgu. 

Mae Rhondda Cynon Taf yn Gyngor cyfeillgar, cefnogol a chreadigol ac rydyn ni'n cynnig swyddi sefydlog gyda thelerau ac amodau hael (gan gynnwys buddion a gostyngiadau staff).

Bydd asesiadau recriwtio mwy diogel yn rhan o'r broses recriwtio ar gyfer y swydd yma i sicrhau bod plant a phobl ifainc yn cael eu hamddiffyn a bod y swydd yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plentyn) Manwl.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Julie Evans, Rheolwr Gwasanaeth, ar (01443) 743217.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.


 

37 awr
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
16 Rhagfyr 2019
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.